Memorandwm Esboniadol i Reoliadau Deddf Rhentu Cartrefi (Ffioedd etc) (Cymru) 2019 (Darpariaeth Drosiannol Tenantiaethau Byrddaliadol Sicr) 2019

 

Cafodd y Memorandwm Esboniadol hwn ei baratoi gan Grŵp Addysg a Gwasanaethau Cyhoeddus Llywodraeth Cymru, ac mae'n cael ei osod gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru ar y cyd â'r is-ddeddfwriaeth uchod ac yn unol â Rheol Sefydlog 27.1.

 

Datganiad y Gweinidog

 

Yn fy marn i, mae'r Memorandwm Esboniadol hwn yn rhoi trosolwg teg a rhesymol am effaith ddisgwyliedig Rheoliadau Deddf Rhentu Cartrefi (Ffioedd etc) (Cymru) 2019 (Darpariaeth Drosiannol Tenantiaethau Byrddaliadol Sicr) 2019.

 

 

Julie James

Y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol

22 Gorffennaf 2019

 


RHAN 1

 

1)    Disgrifiad

 

Mae'r Memorandwm Esboniadol hwn yn ymwneud â Rheoliadau Deddf Rhentu Cartrefi (Ffioedd etc) (Cymru) 2019 (Darpariaeth Drosiannol Tenantiaethau Byrddaliadol Sicr) 2019. Gwneir y Rheoliadau hyn o dan adran 25 o Ddeddf Rhentu Cartrefi (Ffioedd etc.) (Cymru) 2019 (“y Ddeddf”). Mae'r Ddeddf yn gwahardd unigolion rhag ei gwneud yn ofynnol i daliadau penodol gael eu gwneud neu i gamau penodol eraill gael eu cymryd yn gydnabyddiaeth am roi neu am adnewyddu contract meddiannaeth safonol, neu am barhau â chontract o’r fath. Mae hefyd yn gwneud darpariaeth ynghylch trin blaendaliadau cadw ac mewn perthynas â gofynion i roi cyhoeddusrwydd i ffioedd penodol gan asiantiaid gosod eiddo.

 

Mae Rheoliad 3 yn gwneud darpariaeth drosiannol er mwyn cymhwyso Rhannau 1 i 5 a 7 o’r Ddeddf i denantiaeth fyrddaliadol sicr o dan Ran 1 o Ddeddf Tai 1988 (“Deddf 1988”). Mae'r ddarpariaeth drosiannol a wneir mewn cysylltiad ag adran 20 o'r Ddeddf yn cyfyngu landlord annedd rhag rhoi hysbysiad o dan adran 21 o Ddeddf 1988 (“hysbysiad adran 21”) os yw'r landlord wedi ei gwneud yn ofynnol i daliad gwaharddedig nad yw wedi ei ad-dalu gael ei wneud. Yn yr un modd, os yw blaendal cadw wedi ei dalu i landlord, ac nad yw'r blaendal wedi ei ad-dalu, ac os yw’r amgylchiadau’n golygu bod y methiant i ad-dalu yn gyfystyr â thorri gofynion Atodlen 2 i’r Ddeddf, ni chaniateir rhoi hysbysiad adran 21.

 

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal asesiadau effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn.

 

 

2. Materion o ddiddordeb arbennig i'r Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol

 

Dim.

 

3. Y cefndir deddfwriaethol

 

Gwneir y Rheoliadau hyn o dan adran 25 o'r Ddeddf ac maent yn cael eu gwneud o dan weithdrefn penderfyniad negyddol. Byddant yn dod i rym ar 1 Medi 2019.

 

4. Diben y ddeddfwriaeth a’r effaith y bwriedir iddi ei chael

 

Mae'r Rheoliadau hyn yn angenrheidiol i wneud darpariaeth drosiannol hyd nes i Ddeddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 ("Deddf 2016") ddod i rym, ac y bydd hynny'n digwydd ar ôl i'r Ddeddf ddod i rym ar 1 Medi 2019. I'r Ddeddf fod yn gymwys i denantiaethau byrddaliadol sicr o dan y gyfraith bresennol, mae angen gwneud darpariaeth i sicrhau bod y Ddeddf (ac eithrio Rhan 6 mewn perthynas â chyhoeddi ffioedd asiantiaid gosod eiddo) yn gymwys i denantiaethau byrddaliadol sicr o dan Ddeddf 1988.

 

Felly, mae cyfeiriadau yn y Ddeddf at 'ddeiliad contract' a 'chontract meddiannaeth safonol' i’w darllen fel cyfeiriadau at 'denant' a 'thenantiaeth fyrddaliadol sicr' o dan Ddeddf 1988.

Yn ychwanegol, mae'r Rheoliadau hyn yn sicrhau na ellir rhoi hysbysiad adran 21 yn sgil torri'r gofynion mewn perthynas â'r taliadau gwaharddedig a'r blaendaliadau cadw.

 

 

5. Ymgynghoriad

 

Ni chynhaliwyd ymgynghoriad. Mae'r Rheoliadau hyn yn gwneud darpariaeth er mwyn sicrhau bod y Ddeddf yn cael effaith ymarferol o dan y ddeddfwriaeth bresennol.

 

6. Asesiad Effaith Rheoleiddiol

 

Nid oes asesiad effaith rheoleiddiol wedi ei baratoi mewn perthynas â'r Rheoliadau hyn.